The Institute’s key research themes are led by ten academic partners spread across the UK.

Our nine Productivity Forums are spread across the UK acting as regional ambassadors for the importance of productivity. The Investment in Productive Places campaign helps places understand how their resources can be used more effectively.

Businesses are crucial to solving the UK’s productivity problems.

Working closely with policymakers.

Read and listen to our up-to-the-minute productivity output.

We’re a UK-wide research organisation exploring what productivity means for business

Business

Fforwm Cynhyrchiant Cymru

Dechreuwch y daith at gynhyrchiant busnes gwell.


Rydyn ni’n gwybod eich bod chi’n brysur yn rhedeg eich busnes — ond beth pe bai newidiadau bach yn gallu datgloi potensial cudd? Mae’r pecyn cymorth yma wedi’i gynllunio i helpu busnesau bach a chanolig fel eich un chi i asesu, cynllunio a gwella cynhyrchiant yn gyflym.

 

Beth mae ‘cynhyrchiant’ wir yn ei olygu?

Mae cynhyrchiant yn golygu creu gwerth uwch o’r adnoddau sydd gennych chi. Gallai’r adnoddau yma gynnwys adeiladau, tir, llafur, peiriannau ac offer. Gallwch gyflawni twf cynhyrchiant trwy gynyddu cyfaint presennol gwerthiannau nwyddau neu wasanaethau, ond hefyd trwy gynhyrchu cynnyrch â gwerth uwch.

Pam ddylech chi ystyried cynhyrchiant?

Waeth beth yw maint busnes neu sector, mae twf cynhyrchiant yn allweddol er mwyn cynhyrchu elw. Trwy greu mwy o’r un adnoddau, mae twf cynhyrchiant yn cynnig cyfle i leihau prisiau ac ennill cyfran fwy o’r farchnad, buddsoddi yn y dyfodol, cynyddu cyflogau gweithwyr, yn ogystal â chadw mwy o elw. Yn fyr, beth bynnag yw nod penodol eich busnes, mae twf cynhyrchiant yn allweddol i’w gyflawni.

Ar lefel genedlaethol, pe bai cynhyrchiant llafur yng Nghymru mor uchel â chyfartaledd y Deyrnas Unedig, byddai trigolion yn gallu cyflawni’r canlyniadau bron ddiwrnod yn gyflymach. Ydych chi’n gweld mor werthfawr allai rhyddhau adnoddau fod i’ch busnes?

Gyda’r canllaw syml yma, nod Fforwm Cynhyrchiant Cymru yw cefnogi eich taith chi at gynhyrchiant busnes gwell. Rydyn ni’n eich annog i fesur eich cynhyrchiant, datblygu cynllun ar gyfer twf cynhyrchiant a nodi’r cymorth allanol sydd ei angen arnoch chi.

Asesu cynhyrchiant eich busnes

Gallwch fesur eich cynhyrchiant llafur gan ddefnyddio tri rhif. Gwerth trosiant blynyddol (gwerthiannau), pryniannau mewnbwn (cost mewnbynnau sy’n cael eu defnyddio yn y broses gynhyrchu, ac eithrio llafur) a nifer y bobl a gyflogir.

Cyfrifir cynhyrchiant busnes fel:

Turnover = Trosiant

Input purchases = Pryniannau mewnbwn

Workers = Gweithwyr

Enter your figures to calculate
your productivity

Productivity Calculator

Meincnodi’ch perfformiad

Edrychwch sut rydych chi’n cymharu drwy ddefnyddio teclyn rhyngweithiol y Swyddfa Ystadegau Gwladol i feincnodi eich cynhyrchiant yn erbyn busnesau yn eich diwydiant. Gall deall ble rydych chi yn y dosbarthiad eich helpu i nodi cyfleoedd ar gyfer twf cynhyrchiant. Pa mor bell yw eich busnes chi o’r cwmnïau mwyaf cynhyrchiol yn y diwydiant?

Ffigur 1: Mae’r rhan fwyaf o weithwyr mewn cwmnïau sydd o gwmpas y cynhyrchiant canolrif, fodd bynnag mae llawer o weithwyr mewn cynffon hir o fusnesau cynhyrchiol iawn.

Gweithlu yn ôl amcangyfrif Gwerth Ychwanegol Gros fesul gweithiwr ym musnes y gweithiwr yn 2019, prisiau cyson 2019, y DU

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol — Ymchwiliad Busnes Blynyddol a’r Arolwg Busnes Blynyddol. Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon — Ymchwiliad Busnes Blynyddol Gogledd Iwerddon.

Cam pwysig arall yw tracio a monitro cynhyrchiant eich busnes dros amser i asesu effaith y newidiadau rydych chi’n eu gwneud.

 

Adeiladu eich cynllun ar gyfer twf cynhyrchiant

Mewn busnes, mae cynhyrchiant yn dibynnu ar sgiliau, lles a rheolaeth y gweithlu a’r defnydd effeithiol o offer gan gynnwys peiriannau a thechnoleg. Fodd bynnag, mae pob busnes yn unigryw, ac mae’r newidiadau mwyaf effeithiol yn debygol o gael eu datblygu orau yn y busnes a gan y busnes. Drwy gymryd ychydig o amser yn rheolaidd i feddwl am gynhyrchiant, mae ymchwil yn dangos y gallwch wneud y newidiadau sydd eu hangen ar gyfer twf cynaliadwy yn y dyfodol.

Gwiriad cynhyrchiant cyflym

Gwnewch wiriad cyflym o iechyd cynhyrchiant trwy werthuso’r datganiadau canlynol ar raddfa 10 pwynt (lle mae 10 yn nodi cytuno’n gryf).

Dylech fyfyrio ar y cyfleoedd rydych wedi’u nodi a llunio camau rhagweithiol i fanteisio arnynt. Dechreuwch fynd i’r afael ag unrhyw rwystrau rhag twf cynhyrchiant rydych chi’n eu nodi. Yn bwysicaf oll, canolbwyntiwch ar gynhyrchiant trwy neilltuo amser rheolaidd bob mis i ailedrych ar ein gwiriad iechyd ac ystyried twf cynhyrchiant yn eich busnes.

General Event Feedback
0% Complete
1 of 7
0 is not at all likely, 10 is extremely likely

 

Dysgu am hanfodion
cynhyrchiant
busnes

Dysgwch am hanfodion cynhyrchiant busnes mewn dwy funud gyda fideo eglurhaol byr gan The Productivity Institute:

Busnesau’n rhannu eu straeon

 

Barcud Shared Services

Mae twf cynhyrchiant yn gofyn i chi weithio’n ddoethach, ac nid o reidrwydd yn galetach. Yn ein hastudiaeth achos, mae Tom Wilkinson, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Grŵp o Barcud Shared Services, yn rhannu sut helpodd newid i wythnos waith pedwar diwrnod y busnes i ddatgloi lefelau newydd o effeithlonrwydd.

Drwy symleiddio prosesau ac annog gwaith â mwy o ffocws, cyflawnodd y sefydliad gynnydd o 15% mewn cynhyrchiant. Roedd y newid nid yn unig yn gwella rheoli amser, ond hefyd yn cefnogi lles gweithwyr, gan gyfrannu at dîm mwy gweithgar ac effeithiol.

Mae profiad Barcud yn dangos bod newidiadau mewn patrymau gweithio sydd wedi’u cynllunio’n dda yn gallu sicrhau enillion busnes ystyrlon heb aberthu ansawdd nac allbwn.

Gwrandewch ar Tom yn trafod y newidiadau a wnaeth y cwmni ar Business News Wales Soundcloud.

 

Something Different Wholesale

Yn ein hail astudiaeth achos, mae Jane Wallace-Jones o Something Different Wholesale yn rhannu ei chynlluniau i ail-lunio cynllun ei warws a rhoi’r gofod gwag yn y warws ar osod er mwyn gwella cynhyrchiant ac elw yn ei busnes.

Mae’r cwmni’n bwriadu symleiddio llifoedd gwaith a chyflawni enillion cynhyrchiant sylweddol trwy ychwanegu raciau paled, defnyddio eiliau culach, ac adleoli stoc yn agosach at barthau casglu. Drwy brydlesu gofod nad yw’n cael ei ddefnyddio, mae Jane hefyd yn bwriadu datblygu ffrwd refeniw newydd a lleihau costau eiddo.

Nod y defnydd mwy effeithlon hwn o ofod yw sicrhau enillion cynhyrchiant pwerus a buddion ariannol.

Gallwch wrando ar Jane yn trafod y newidiadau a wnaeth y cwmni ar Business News Wales Soundcloud.

 

Ceisiwch y cymorth sy’n cefnogi’ch busnes

Rydyn ni’n deall bod angen cymorth ar arweinwyr busnes i wneud y mwyaf o’u potensial cynhyrchiant. Yn ffodus, mae yna lawer o ffynonellau cyngor ac arweiniad. O gyllid i hyfforddiant, mae’r sefydliadau arbenigol yma’n barod i helpu:

Cadwch mewn cysylltiad, rhannwch eich syniadau a chymerwch ran

Rydyn ni eisiau clywed gennych chi

Nod Fforwm Cynhyrchiant Cymru yw gwella cynhyrchiant yng Nghymru ac mae’n awyddus i glywed beth sydd angen ei newid er mwyn gwneud Cymru’n amgylchedd mwy cynhyrchiol i fusnes. Rydyn ni’n croesawu eich sylwadau drwy

Walesproductivityforum@caerdydd.ac.uk

Canllawiau diweddaraf

Os ydych am dderbyn mwy o wybodaeth am y Sefydliad Cynhyrchiant cofrestrwch i’n cylchlythyr yn The Productivity Institute

Oes gennych chi stori wych am gynhyrchiant?

Rydyn ni bob amser yn chwilio am arloeswyr busnes yng Nghymru i rannu eu harferion da. Oes gennych chi ddiddordeb?

Cysylltwch â ni drwy
Walesproductivityforum@caerdydd.ac.uk

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.

For more information see our Privacy Policy